Mas-symudiad

Enghraifft o fas-symudiad yn y Palo Duro Canyon, Gorllewin Tecsas.

Mae mas-symudiad yn golygu symudiad deunydd i lawr llethr o dan ddylanwad disgyrchiant, heb gymorth uniongyrchol gan ddŵr neu iâ. Efallai bydd dŵr ac iâ yn gweithredu fel irwr fodd bynnag. Mae prosesau mas-symudiad yn medru digwydd dros raddfeydd gofodol ac amserol amrywiol iawn. Er enghraifft, bydd gronynnau unigol yn cael eu symud ychydig gentimetrau dros gyfnod o ganrifoedd gan ymgripiad pridd tra bod tirlithriadau sydd yn symud darnau cyfan o fynyddoedd yn digwydd o fewn ychydig funudau. Y tirlithriad mwyaf a gofnodwyd ar y ddaear erioed oedd llithriad Saidmarreh yn ne orllewin Iran 10,000 o flynyddoedd yn ôl pryd y symudodd llwyth o galchfaen 15 km o hyd, 5 km o led ac o leiaf 300 m o ddyfnder nifer o gilometrau.

Mae nifer o ffactorau yn effeithio ar symudiad deunydd i lawr y llethr. Graddiant yw un o’r ffactorau pwysicaf. Mae grym disgyrchiant sydd yn gweithredu ar ddeunydd ar lethr yn rhannu i ddwy elfen: cydran lawr-llethr a chydran normal i’r llethr. Mae’r gydran lawr-llethr yn gosod straen groesrym ar y bloc sydd yn gweithredu ar yr un plân â’r llethr (yn gyfochrog i ongl y llethr) ac yn tynnu’r deunydd i lawr y llethr. Mae’r gydran normal i’r llethr yn gweithredu ar ongl sgwâr i’r llethr ac yn ceisio atal symudiad drwy ddal y bloc yn ei le. Mae ffrithiant rhwng y deunydd a’r llethr hefyd yn ceisio atal y deunydd rhag symud i lawr y llethr.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search